Mae pennaeth BP wedi cyfaddef heddiw y gallai gael y sac oherwydd yr olew sy’n parhau i ollwng i’r môr yng Nghwlff Mecsico.
Wrth i beirianwyr BP barhau i geisio atal yr olew sydd wedi bod yn llifo ers tair wythnos bellach, mae Tony Hayward wedi dweud fod ei ddyfodol yn dibynnu ar ymateb y cwmni i’r argyfwng.
Dyw ei swydd ddim o dan fygythiad ar hyn o bryd, meddai wrth bapur newydd The Times, cyn ychwanegu, “ond gallai hynna newid”.
Fe fynnodd y byddai’n aros nes bydd y sefyllfa wedi’i datrys.
Yn y cyfweliad hefyd, cyfaddefodd Tony Hayward ei fod yn cael trafferth cysgu, a’i fod wedi derbyn llythyrau bygythiol. Ond mewn cyfweliad arall, gyda phapur y Guardian, fe honnodd mai dim ond “diferyn” oedd yr olew o’i gymharu gydag ehangder y cefnfror.
Rhwystro’r olew
Mae peirianwyr BP yn gobeithio gosod cromen ddur ar siâp ‘het uchel’ dros y bibell sy’n gollwng, er mwyn rheoli’r olew. Mae ymdrech i osod cromen ddur debyg, ond mwy, eisoes wedi methu.
Cynllun arall sydd gan y peirianwyr yw llenwi’r bibell â malurion a pheli golff, techneg sy’n cael ei galw yn ‘junk shot.’ Ond mae’r gwaith o glirio’r olew sydd ar wyneb y môr hefyd yn parhau.
Mae pedair awyren Hercules wedi bod yn chwistrellu cemegau dros yr olew, ac mae mwy na 500 o longau wrthi’n sgimio’r llygredd oddi ar wyneb y môr.
Mae tua 5,000 o gychod pysgota hefyd wrthi’n gosod 1.2 miliwn troedfedd o rwystrau ar wyneb y môr er mwyn ceisio atal yr olew rhag cyrraedd glannau taleithiau Louisiana, Mississippi, Alabama a Florida yn yr Unol Daleithiau.
Mae’r olew’n bygwth gwernydd, gwlypdiroedd, traethau, bywyd gwyllt a diwydiannau pysgota’r taleithiau ar lannau’r Gwlff.
£300 miliwn
Yn ôl BP maen nhw wedi gwario £300 miliwn ar geisio rhwystro’r olew, ac mae’r bil yn cynyddu o £6 miliwn y dydd.
Mae tua phedair miliwn galwyn o olew wedi llifo i mewn i’r môr ers pan ffrwydrodd llwyfan olew Deepwater Horizon ar 20 Ebrill.
Fe gafodd 11 o weithwyr eu lladd ac fe awgrymodd BP ddoe mai ffaeleddau technegol oedd wedi arwain at y ffrwydrad.
Llun: Fflamau’n codi o’r llwyfan olew wedi’r ffrwydrad gwreiddiol