Mae adroddiadau fod 28 o bobol wedi marw yng nghanolbarth India ar ôl i’w bws gyffwrdd â gwifren drydan a mynd ar dân.

Yn ôl papur y Times of India, roedd tua 55 o bobol yn teithio’n ôl o briodas pan gollodd y gyrrwr reolaeth ar y bws.

Aeth yn erbyn polyn trydan gan achosi i’r wifren gwympo a chyffwrdd mewn blwch metel oedd ar ben y bws. Fe gafodd y 28 eu trydaneiddio.

Y trychineb yn ardal Mandla yn nhalaith Madhya Pradesh oedd yr ail ddigwyddiad o’r fath o fewn dau ddiwrnod yn India.

Cafodd o leiaf 15 o bobol eu lladd yn nwyrain talaith Bihar ddoe pan gyffyrddodd eu tryc â gwifren drydan. Roedden nhw ar y ffordd yn ôl o amlosgfa.

Llun: Sianel deledu leol yn dangos lluniau o’r bws