Ennill gwobr yn y Brits Clasurol oedd un o’r uchafbwyntiau mwya’ i gôr meibion Only Men Aloud, meddai eu harweinydd.
Roedd yn gydnabyddiaeth gan y byd cerddoriaeth glasurol, meddai Tim Rhys-Evans wrth Radio Wales.
Ef hefyd yw sylfaenydd y côr a ddaeth yn enwog trwy ennill y gystadleuaeth deledu Last Choir Standing.
Neithiwr, fe lwyddon nhw guro’r Pab, y Cymro Rhydian Roberts a Chôr Meibion Froncysyllte i gipio gwobr yr albwm gorau gyda’u hail ddisg, Band of Brothers.
Mae honno’n cynnwys caneuon Cymraeg ac fe gafodd ei dewis gan wrandawyr gorsaf radio Classic FM a darllenwyr cylchgrawn yr orsaf.
Bryn Terfel hefyd
Roedd llais y Pab wedi ei gynnwys ar un arall o’r recordiau ar y rhestr fer ond, yn ôl y disgwyl, doedd Bened XVI ddim yn y seremoni.
Ond roedd Only Men Aloud a Rhydian yno ymhlith y perfformwyr.
Roedd y canwr Bryn Terfel hefyd yn cymryd rhan yn y noson wobrwyo ond fe gafodd ei guro am wobr yr artist gwrywaidd gorau gan Vasily Petrenko, arweinydd Cerddorfa Ffilarmonig Lerpwl.