Mae tri dyn o Bacistan wedi cael eu harestio yn yr Unol Daleithiau ynglŷn â’r ymgais i ffrwydro cerbyd yn Efrog Newydd, ar 1 Mai.
Cafodd dau o’r dynion eu harestio gan yr FBI yn Boston, talaith Massachusetts, a’r llall yn Ne Portland, talaith Maine.
Yr honiad yw fod ganddyn nhw gysylltiad ariannol gyda’r dyn sy’n cael ei amau o fod yn gyfrifol am geisio ffrwydro cerbyd yn ardal Times Square, Faisal Shahzad.
Dyw ymchwilwyr ddim yn sicr fod y dynion yn gwybod sut yr oedd eu harian yn mynd i gael ei ddefnyddio. Ond yr amheuaeth yw bod yr arian wedi’i drosglwyddo i Faisal Shahzad drwy rwydwaith answyddogol ‘hawalas,’ sy’n cael ei ddefnyddio gan fewnfudwyr Moslemaidd.
Dyw’r tri dyn ddim wedi eu cyhuddo o droseddau na therfysgaeth ond yn hytrach ar gyhuddiadau gweinyddol yn ymwneud a mewnfudo.
Mae Faisal Shahzad, sydd yn ddinesydd yn yr Unol Daleithiau ond a gafodd ei eni ym Mhacistan, yn cael ei amau o geisio ffrwydro fan oedd yn llawn petrol a nwy propan y tu allan i fwytai prysur a theatrau Broadway yn Times Square.
Hawalas
Trwy system Hawalas, bydd arian yn cael ei anfon i deuluoedd yn y post, gyda chwrier dros nos neu drwy drosglwyddiadau electronig.
Mae’r system yn rhatach a chyflymach na’r banciau ond, ers ymosodiadau 11 Medi 2001, mae ymdrechion wedi bod i atal y system, oherwydd ofn bod terfysgwyr yn ei ddefnyddio.
Panic arall
Roedd yna banic arall yng nghanol Efrog Newydd ar ôl i gar yn llawn caniau petrol gael ei adael ger un o orsafoedd trenau tanddaear y ddinas.
Fe gafodd pobol eu clirio o un adeilad ac fe gaewyd ffyrdd wrth i’r heddlu ymchwilio.
Maen nhw bellach wedi cadarnhau bod y caniau wedi eu symud ac nad oedd dim drwgdybus yn y car.
Llun: Swyddog diogelwch yn delio gyda’r car amheus (AP Photo)