Unwaith eto, does dim lle i’r troellwr Robert Croft wrth i Forgannwg geisio parhau gyda’u dechrau da i’r tymor.
Ar ôl chwalu Northamptonshire o fwy na batiad yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd, mae’r Cymry’n teithio i Bournemouth i chwarae’r Unicorns yn Nghynghrair 40 pelawd Banc Clydesdale ddydd Sul.
Dean Cosker yw’r unig droellwr arbenigol yn y sgwad o 12 – arwydd o lwyddiant y bowlwyr cyflym ym mherfformiadau’r sir hyd yma.
Mae Morgannwg eisoes wedi ennill deirgwaith yn y Bencampwriaeth – gwell na’u record trwy’r tymor diwetha’.
Yn ôl y capten Jamie Dalrymple roedd pawb yn cyfrannu wrth i’r tîm chwarae’n dda ac roedd llawer llai o ddibyniaeth nag arfer ar y troellwyr. “Dyw Robert Croft ddim hyn yn oed yn gallu cael lle yn y tîm,” meddai.
Tîm newydd yw’r Unicorns, sydd wedi ei ddewis ar ran Bwrdd Criced Cymru a Lloegr i gynnwys chwaraewyr sydd heb arwyddo i’r siroedd eraill.