Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod dyn wedi cael ei arestio yn dilyn adroddiadau fod merch fach wedi cael ei chipio.
Daeth yr adroddiadau bod y ferch wedi cael ei chipio neithiwr o’i chartref yn ardal yr Wyddgrug, ac roedd yr heddlu wedi cynnal ymgyrch fawr i ddod o hyd iddi.
Roedden nhw wedi cynnal cyrch ar draws gogledd Cymru, gan ddefnyddio hofrennydd, swyddogion traffig a ditectifs.
Yn ôl y Ditectif Uwch-arolygydd Peter Chalinor, cafodd y ferch ei chanfod o fewn rhai oriau. Dywedodd ei bod hi bellach yn saff ac yn cael gofal gan ei theulu a chan yr heddlu.
Does dim gwybodaeth hyd yn hyn ynglŷn â pham y cafodd ei chipio ac ychydig iawn o fanylion sydd wedi eu rhoi gan yr heddlu.
Llun: Swyddfa Heddlu yr Wyddgrug