Mae llinell gymorth genedlaethol newydd wedi cael ei lansio i roi llais a chyngor i blant a phobol ifanc yng Nghymru.
Y llinell – o’r enw Meic – yw’r llinell genedlaethol gyntaf o’r fath ac mae’r Llywodraeth wedi gwadu honiadau eu bod yn gwastraffu arian trwy ddyblygu gwasanaethau sydd eisoes ar gael.
Bydd cynghorwyr ar ben arall y ffôn yn cynnig gwybodaeth i’r bobol ifanc, yn rhoi manylion ynglŷn â lle i droi am gymorth pellach, neu’n eu trosglwyddo i eiriolwr proffesiynol annibynnol.
Yn ôl y Llywodraeth yng Nghaerdydd, fe fydd Meic yn ategu a chydweithio â gwasanaethau cynghori a llinellau cymorth eraill, megis Childline.
“Am y tro cyntaf, bydd gan blant a phobol ifanc un pwynt cyswllt – dros y ffôn, ar neges testun, neu drwy neges wib – i gael help a chefnogaeth pan mae eu hangen arnynt,” meddai Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis.
BB Aled yn cefnogi
Mae Aled Haydn Jones – BB Aled – cyflwynydd rhaglen gynghori Radio 1, The Surgery a chynhyrchydd rhaglen radio foreol Chris Moyles, yn cefnogi llinell gymorth Meic ac yn cymryd rhan yn y lansio.
“Mae plant a phobol ifanc yn wynebu amrywiaeth eang o broblemau ac yn aml maen nhw’n teimlo ei bod yn anodd cael rhywun i wrando arnyn nhw,” meddai. “Fe ges i brofiad uniongyrchol o hynny wrth dyfu lan.
“Rwy’n hapus dros ben i gefnogi Meic oherwydd bydd y gwasanaeth hwn yn rhoi llais a grym i blant Cymru, gan helpu i sicrhau eu bod yn cael profiadau positif mewn bywyd,” ychwanegodd y cyflwynydd.
Ar y dechrau, bydd Meic ar agor am 8 awr y dydd rhwng hanner dydd ac wyth y nos cyn troi’n wasanaeth 24 awr maes o law.
Bydd plant a phobl ifanc o dan 25 oed yn gallu cysylltu â Meic drwy rif rhadffôn 080880 23456, testun di-dâl 84001 neu neges wib www.meiccymru.org saith niwrnod yr wythnos.
Llun: Y Dirprwy Weinidog tros Blant, Huw Lewis