Mae’r gobeithion am etholiadau seneddol a diwedd heddychlon yn edrych yn annhebygol yng Ngwlad Thai heddiw, wrth i brotestwyr a lluoedd diogelwch wrthdaro eto.
Mae’r Llywodraeth yn Llundain wedi cyhoeddi ei bod yn cau llysgenhadaeth Prydain yn y wlad ac mae’r Swyddfa Dramor yn rhybuddio pobol i beidio ag ymweld â’r brifddinas, Bangkok.
Mae adroddiadau bod yr ymladd wedi ailddechrau heddiw wrth i’r lluoedd diogelwch geisio corlannu protestwyr yn eu gwersyll tros dro.
Gwrthod gadael
Mae’r gwrthdystwyr – carfan y Crysau Coch – wedi gwrthod gadael canol Bangkok gan barlysu llawer o’r gweithgareddau masnachol yno.
Ddoe, cafodd un o arweinwyr amlycaf y protestwyr ei saethu yn ei ben wrth siarad gyda newyddiadurwyr. Roedd yn un o swyddogion byddin gwlad Thai oedd wedi newid ochor.
Yn dilyn y saethu, roedd brwydro wedi dechrau ar y strydoedd, ac mae o leiaf un dyn wedi cael ei ladd ac 11 wedi eu hanafu.
Mae Llywodraeth Gwlad Thai wedi datgan cyflwr o argyfwng mewn nifer o daleithiau ac mae’r fyddin wedi cael y grym i atal protestwyr rhag mynd i mewn i Bangkok i ymuno â’r gwrthdystio, yn ogystal â’r hawl i gyfyngu ar hawliau dynol.
Llun: Protestwyr arfog yn amddiffyn eu gwersyll (AP Photo)