Afghanistan fydd y prif bwnc trafod pan fydd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, yn ymweld â’r Unol Daleithiau heddiw.
Fe fydd yn dweud wrth yr Ysgrifennydd Gwladol yno, Hillary Clinton, y bydd milwyr Prydain yn aros yn Afghanistan “nes bod y gwaith wedi’i wneud”.
Fe fydd yn gwrthod rhoi terfyn amser ar dynnu milwyr oddi yno, ond fe fydd gwledydd Prydain yn disgwyl i Arlywydd Afghanistan, Hamid Karzai, gadw at ei addewidion.
‘Neb yn ennill’ – meddai McChrystal
Wrth i William Hague groesi’r Iwerydd, mae prif filwr y Cenhedloedd Unedig yn Afghanistan wedi rhybuddio nad oes neb yn ennill y rhyfel yn Afghanistan ar hyn o bryd.
Fe ddywedodd y Cadfridog Stanley McChrystal wrth raglen deledu yn America bod gwrthryfelwyr y Taliban wedi cael eu hatal ond nad oedden nhw wedi eu curo.
Roedd y gwrthryfel yn parhau’n ddifrifol, meddai, gyda llawer o filwyr ar hyd a lled y wlad.
‘Perthynas gadarn’ meddai Hague
Mae William Hague wedi addo cynnal perthynas “gadarn ond nid taeogaidd” gyda’r Unol Daleithiau – awgrym bod y Llywodraeth Llafur wedi ymgreinio gormod.
Fe bwysleisiodd hefyd nad oedd gwahaniaeth barn o bwys rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol ynglŷn ag Afghanistan.
Ond roedd yna anghytuno sylweddol tros bolisi’r Unol Daleithiau tuag at Iran ac Irac cyn hynny.