Fe gafodd Ysgrifennydd newydd Cymru ei chyfarfod cyntaf gyda Phrif Weinidog Cyumru wrth alw heibio i Fae Caerdydd.

Roedd Cheryl Gillan hefyd yn cyfarfod gydag arweinwyr Cymreig y ddwy blaid sy’n rhan o’r Llywodraeth newydd yn Llundain ond sy’n wrthbleidiau yng Nghaerdydd – Nick Bourne o’r Ceidwadwyr a Kirsty Williams o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae AS Chesham ac Amersham wedi cael ei beirniadu am nad yw’n cynrychioli etholaeth yng Nghymru ond mae wedi pwysleisio ei bod wedi ei geni a’i magu yng Nghaerdydd.

Ar ôl y Cynulliad, fe fydd yn ymweld â fferm yn y Barri sy’n croesawu plant gydag anawsterau dysgu.

Refferendwm ac eLCO

Mae’r glymblaid newydd wedi addo cadw at y bwriad i gynnal refferendwm ar ddatganoli pellach ond mae hefyd yn dod dan bwysau i ddweud a fydd yn caniatáu rhoi hawliau deddfu ar dai i Gaerdydd.

Roedd ASau Ceidwadol wedi atal Gorchymyn Deddfu’r eLCO Tai yn y senedd ddiwetha’, oherwydd ei fod yn rhoi hawl i gynghorau sir yng Nghymru roi’r gorau i werthu tai cyngor.