Fe fydd cyn ficer o Bowys yn ymddangos yn y llys heddiw wedi ei gyhuddo o gyfres o droseddau rhywiol yn erbyn plant.
Mae disgwyl y bydd y gwrandawiad yn clywed beth yw ple Richard Hart ac yn trefnu’r achos llawn.
Fe gafodd y clerigwr 60 oed ei arestio ym mis Mawrth ar amheuaeth o nifer o droseddau, gan gynnwys ymosodiadau anweddus ac anwedduster dybryd – gross indecency.
Roedd Richard Hart o Bugeildy ger Tref-y-clawdd yn gyfrifol am bedwar plwyf yn ne Powys.