Fe fydd y Prif Weinidog newydd yn rhoi awgrym clir o’i agwedd at ddatganoli wrth ymweld â’r Alban.
Mae David Cameron wedi addo ymweld â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig – gan gynnwys Cymru – o fewn dyddiau i ddechrau ar ei swydd.
Fe fydd yn wynebu galwad am arian gan Brif Weinidog yr SNP yno, Alex Salmond, ac am sicrwydd tros rai o hawliau’r Senedd yng Nghaeredin.
Dim ond un Aelod Seneddol Ceidwadol sydd gan David Cameron yn yr Alban a dim ond 17% o’r bleidlais a gafodd y blaid yno.
Gofyn am arian
Fe fydd Alex Salmond yn gofyn am addewid na fydd trefn ariannu’r Alban yn cael ei newid heb ganiatâd gan Senedd yr Alban ac fe fydd yn hawlio £700 miliwn o arian ychwanegol.
Cyfalaf cynnar yw hanner hwnnw – cyflymu’r broses o wario arian sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y dyfodol. Fe fydd yna gais hefyd am £165 miliwn – cyfran yr Alban o wario’r Llywodraeth ar adnewyddu cymdeithasol yn ardal yr Olympics yn Llundain.
Mae clymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo cadw at argymhellion Comisiwn Calman, a oedd yn cynnig rhoi rhywfaint o hawliau trethu i Gaeredin.
Mae gan y Democratiaid 11 o ASau Albanaidd ac un ohonyn nhw, Danny Alexander, yw Ysgrifennydd newydd yr Alban.
Er nad yw David Cameron eto wedi rhoi barn ar ofynion yr SNP, fe ddywedodd un o arweinwyr y Democratiaid, Mike Rumbles, eu bod yn wirion. “Mae Alex yn dal i fod yn Wonderland,” meddai.