Fe fydd yna isetholiad yn ward Diffwys a Maenofferen ym Mlaenau Ffestiniog ar 15 Gorffennaf ar ôl i Gwilym Euros Roberts ymddiswyddo fel cynghorydd.

Mae’r cynghorydd 40 oed o blaid Llais Gwynedd wedi pledio’n euog yn Llys y Goron Caernarfon o geisio achosi niwed corfforol difrifol i’w wraig ar 17 Ebrill eleni.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 11 Mehefin ac mae’r Barnwr wedi ei rybuddio ei fod o’n debygol o wynebu cyfnod yn y carchar.

Roedd wedi ymosod ar ei wraig gyda chyllyll ac, yn ôl y cyhuddiadau cynharach, wedi ymosod arni hi a dyn oedd gyda hi mewn gwesty ym Maentwrog.