Mae’r llywodraeth newydd wedi cyhoeddi mai David Jones, AS Gorllewin Clwyd ers 2005, fydd dirprwy weinidog Cheryl Gillan yn y Swyddfa Gymreig.

David Jones yw’r unig weinidog o Gymru hyd yma. Cafodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ei magu am gyfnod yng Nghaerdydd ond mae hi’n AS dros Chesham & Amsersham yn Swydd Buckingham.

Roedd o’n Weinidog Swyddfa Gymreig yr wrthblaid cyn yr etholiad. Dywedodd mai ei flaenoriaeth yn y swydd fydd gwella’r perthynas rhwng San Steffan a’r Cynulliad.

Mae ganddo fwyafrif o dros 6,400 yn y Cynulliad o’i gymharu â thua 200 ar ôl etholiad 2005, ac wedi dweud mai adfer pier Bae Colwyn yw un o’i flaenoriaethau yn ei etholaeth.