Bydd cwpan rygbi saith bob ochr y byd yn cael ei gynnal yn Rwsia yn 2013.
Fe gyhoeddodd cadeirydd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB), Bernard Lapasset, y newyddion yn dilyn cyfarfod blynyddol yr IRB yn Llundain.
Dyma fydd chweched gystadleuaeth cwpan rygbi saith bob ochr y byd, gyda Chymru’n bencampwyr yn dilyn eu llwyddiant yn Nubai y llynedd.
“Roedd aelodau’r cyngor yn hapus iawn gyda chynnig Rwsia ac r’yn ni’n siŵr y bydd Moscow yn cynnal cystadleuaeth arbennig,” meddai Bernard Lapasset.
“Mae gan Foscow hanes eithriadol o dda o gynnal rhai o brif ddigwyddiadau chwaraeon,” ychwanegodd y cadeirydd.
Tair blynedd ar ôl y Cwpan y Byd yn Rwsia, fe fydd y gêm saith bob ochr yn cael ei chynnwys yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf yn Rio de Janiero ym Mrasil.