Mae’r Gweilch wedi enwi’r un tîm a faeddodd y Dreigiau’r wythnos diwethaf i herio Glasgow yn Stadiwm Liberty nos yfory.
Bydd James Hook yn cychwyn y gêm fel canolwr er gwaethaf ei broblem gyda’i ysgwydd.
Mae prop Cymru, Adam Jones wedi gwella o anaf i’w bigwrn a gafodd wrth chwrae yn erbyn tîm Paul Turner.
Mae Alun Wyn Jones yn dechrau yn yr ail reng ac fe fydd yn ymddangos am y 100fed tro dros ei ranbarth nos yfory.
Bydd enillwyr y gêm nos yfory yn mynd yn eu blaen i herio naill ai Leinster neu Munster yn y rownd derfynol ar 29 Mai.
Mae prif hyfforddwr y Gweilch, Sean Holley, wedi dweud ei fod yn hapus bod y Gweilch wedi sicrhau gêm gartref yn rownd cyn derfynol y gemau ail gyfle.
“R’yn ni wedi gweithio’n galed y tymor hwn i sicrhau gêm gartref. D’yn ni ddim yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol, gan fod Glasgow yn dîm peryglus, ond mae’n braf cael chwarae adref,” meddai Sean Holley.
“R’yn ni wedi sicrhau cyfres o ganlyniadau addawol yn Stadiwm Liberty gan guro timau da fel Caerlŷr, Munster a’r Gleision.
“Mae gan Glasgow garfan dda, yn llawn chwaraewyr rhyngwladol. Felly tra ein bod ni’n falch o gael chwarae adref, r’yn ni’n ymwybodol bod lot o waith i’w wneud eto.
Carfan y Gweilch
15 Lee Byrne 14 Tommy Bowe 13 Andrew Bishop 12 James Hook 11 Shane Williams 10 Dan Biggar 9 Mike Phillips.
1 Paul James 2 Huw Bennett 3 Adam Jones 4 Alun Wyn Jones 5 Jonathan Thomas 6 Jerry Collins 7 Marty Holah 8 Ryan Jones.
Eilyddion- 16 Ed Shervington 17 Ryan Bevington 18 Ian Gough 19 Filo Tiatia 20 Jamie Nutbrown 21 Gareth Owen 22 Nikki Walker.