Mae’r Gweilch wedi cael eu dirwyo £100,000 a cholli pedwar pwynt yng Nghynghrair Magners y tymor nesaf am ohirio gêm yn erbyn Ulster heb ganiatâd.
Penderfynodd panel disgyblu Celtic Rugby bod y rhanbarth Cymreig wedi torri rheolau’r gystadleuaeth
Roedd y Gweilch wedi honni nad oedd ganddyn nhw ddigon o chwaraewyr rheng flaen i gymryd rhan yn y gêm yn Ravenhill ym Melffast ar 19 Mawrth.
Mae hawl gan y Gweilch a Celtic Rugby i apelio yn erbyn y penderfyniad.
“Fe fyddwn ni aros am y dyfarniad ysgrifenedig llawn cyn penderfynu apelio neu beidio yn erbyn y penderfyniad,” nododd y Gweilch mewn datganiad.