Mae Cyngor y Benthycwyr Morgeisi wedi annog y Llywodraeth newydd i barhau â’r gefnogaeth i berchnogion tai sy’n cael anhawster wrth dalu eu dyledion.

Daw’r alwad ar ôl i ffigurau ddangos heddiw fod nifer y cartrefi sydd wedi cael eu hadfeddiannu wedi disgyn i’w lefel isaf ers dwy flynedd yn ystod tri mis cyntaf eleni.

Mae’r ffigurau gan Gyngor y Benthycwyr Morgeisi yn dangos fod tua 9,800 o bobol wedi colli eu cartrefi rhwng mis Ionawr a Mawrth – 8% yn llai na’r chwarter blaenorol a 26% yn is na’r un cyfnod yn 2009.

Roedd lleihad hefyd yn y nifer o bobol oedd ag ôl-ddyledion ar eu morgeisi, wrth i gyfraddau llog isel ei gwneud hi’n haws i bobol dalu arian yn ôl.

Mae’r Cyngor Benthycwyr Morgeisi ynghyd â Shelter a Chyngor ar Bopeth wedi ysgrifennu at y Canghellor newydd, George Osborne.

Fe fyddan nhw’n ei annog i ehangu’r mesurau sydd ar gael gan y Llywodraeth ar hyn o bryd, er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa adfeddiannu ac ôl-ddyled.

Roedd y Cyngor yn dweud eu bod yn rhagweld y byddai 53,000 o bobol yn colli eu cartrefi yn 2010, ond yn dilyn y ffigurau diweddar yma, maen nhw wedi dweud y gallai hynny newid.

Maen nhw wedi rhybuddio bod yn rhaid troedio’n ofalus, er gwaetha’r gostyngiad, gan fod nifer fawr o berchnogion cartrefi yn parhau i fod mewn sefyllfa fregus yn ariannol.