Mae British Airways yn honni y bydd o leiaf hanner eu teithiau yn gadael maes awyr Heathrow wythnos nesaf, pan fydd eu gweithwyr caban yn mynd ar streic.

Yn ôl y cwmni hedfan, maen nhw am weld mwy na’ 60% o’u teithiau hir, a thros 50% o’u teithiau byrrach yn gadael yn ystod y streiciau fydd yn dechrau ddydd Mawrth.

Mae’r streic wedi cael ei threfnu gan undeb Unite, yn sgil dadl hirdymor rhwng gweithwyr caban a rheolwyr ynglŷn â swyddi, cyflog ac amodau gwaith.

Mae’r undeb wedi trefnu pedair streic o bum diwrnod yr un, gydag un diwrnod o orffwys rhwng pob streic.


Rhentu awyrennau

Ond mae BA yn honni y bydd prinder gweithwyr yn cael ei lenwi drwy rentu awyrennau, ynghyd â pheilotiaid a gweithwyr caban oddi wrth gwmnïau awyr arall.

Yn sgil y trefniadau yma, tydi BA ddim yn credu y bydd y streic yn effeithio ar feysydd awyr Gatwick a Dinas Llundain o gwbl.

Mae BA hefyd wedi trefnu bod teithwyr fydd yn cael eu heffeithio yn Heathrow yn cael eu trosglwyddo i ofal cwmnïau eraill.

Trafodaeth

Mae BA ac Unite wedi galw am drafodaethau newydd, ond nid yw’n ymddangos bod unrhyw beth wedi cael ei drefnu.

Beirniadu Unite am ddewis mynd ar streic yn ystod amser prysur o’r flwyddyn y mae prif weithredwr BA, Willie Walsh.

Bydd y streiciau yn digwydd yn ystod gwyliau hanner tymor ysgolion, ac yn gorffen deuddydd cyn dechrau cystadleuaeth bêl-droed Cwpan y Byd.

Mae BA wedi gwneud cynnig “teg iawn” honnodd Willie Walsh, ac wedi cyfaddawdu “nifer o weithiau” er mwyn datrys y ddadl.

“Mae ein drws yn dal yn agored i Unite, ddydd neu nos,” meddai, “dyw hi ddim yn rhy hwyr i Unite atal y gweithredu yma.”

Ond mae Tony Woodley, cyd arweinydd Unite, wedi dweud bod Willie Walsh yn osgoi dweud os yw’n barod i ailddechrau trafodaethau ai peidio.

“Mae angen i BA i drafod gyda ni er mwyn setlo hyn,” meddai.