Bydd y ddwy ‘draffordd’ cyntaf i seiclwyr yn cael eu hagor yn Llundain ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Maer y ddinas, Boris Johnson, heddiw.

Mae’r datblygiad yn rhan o raglen ‘Blwyddyn Beicio Llundain’ – cynllun i’w gwneud hi’n haws ac yn fwy diogel i seiclwyr deithio o’r cyrion i mewn i ganol y ddinas.

Ond mae’r cynllun wedi cael ei feirniadu gan gydlynydd polisi Sefydliad Seiclo Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.

Er ei fod yn cefnogi’r cynllun mewn egwyddor, dywedodd Chris Peck nad ydi paentio llinell las ar ymyl y ffordd i ddynodi llwybr i’r beicwyr yn gwneud y tro.

“Does dim digon yn cael ei wneud i leddfu’r traffig,” meddai.

“R’yn ni eisiau gweld llai o draffig … ac, os nad ydi hynny’n bosib, fe fydden ni’n hoffi gweld uchafswm cyflymder is yn cael ei gyflwyno.”

‘Traffordd’

Bydd y ddwy ‘draffordd’ cyntaf yn ymestyn o Barking yn nwyrain Llundain, i Tower Gateway yn agos i Dwr Llundain; ac o Merton ar yr ochr ddeheuol i Ddinas Llundain.

Mae 10 traffordd arall yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.

Mae nifer y seiclwyr ar strydoedd Llundain wedi cynyddu 117% yn ystod y degawd diwethaf.

Bydd £116 miliwn yn cael ei wario ar brosiectau seiclo yn y brifddinas eleni, gan gynnwys:

• Lleihau nifer y damweiniau rhwng seiclwyr a lorïau.

• Darparu mwy o lefydd i barcio beiciau ar y strydoedd, yn y gweithle, mewn gorsafoedd ac mewn ysgolion.

• Lleihau nifer y beiciau sy’n cael eu dwyn.

• Sicrhau bod seiclo yn dod yn rhan hollbwysig o’r modd y mae Llundain yn cael ei chynllunio a’i rheoli.