Mae BP wedi awgrymu beth oedd yn gyfrifol am y ffrwydrad rig olew a achosodd marwolaeth 11 o bobol a llygredd ofnadwy ym môr Gwlff Mecsico.

Mae dogfennau a gyflwynwyd gan y cwmni olew i wrandawiad gan Dŷ’r Cynrychiolwyr yn yr Unol Daleithiau, yn awgrymu mai cyfuniad o ffaeleddau technegol ac ymarferol oedd yn gyfrifol.

Roedd batri’r teclyn oedd i fod i rwystro unrhyw ffrwydrad o’r fath – y ‘blowout preventer’ – yn fflat, ac roedd ei system hydrolig yn gollwng.

Doedd gwifrau heb eu gosod yn iawn, ac roedd trafferthion selio a allai, mae’n debyg, fod wedi caniatáu ffrwydrad methan.

Roedd awgrymiadau hefyd y gallai profion gwasgedd o fewn pibellau fod wedi rhybuddio gweithwyr am y perygl yma.

Ond “dyw hi ddim yn briodol i ddod at unrhyw gasgliad cyn gwybod yr holl ffeithiau,” meddai llywydd BP America, Lamar McKay, wrth y Tŷ.

Dyma’r trydydd gwaith yr wythnos yma i weithredwyr o BP ac o ddau gwmni arall, gael eu holi gan wleidyddion Tŷ’r Cynrychiolwyr.

Ymgais newydd i atal yr olew

Mae peirianwyr BP dal wrthi’n ceisio atal yr olew rhag llifo i mewn i Gwlff Mecsico.

Daeth eu hymdrechion gwreiddiol i osod cromen ddur dros y bibell sy’n gollwng i ddim, ond maen nhw’n gobeithio cael mwy o lwyddiant gyda dyfais newydd.

Maen nhw’n gobeithio gosod ‘het uchel’ – cromen sy’n llai na’r gwreiddiol – dros y bibell sy’n gollwng rywbryd heddiw.

Mae’r olew wedi bod yn gollwng ers 20 Ebrill, pan ffrwydrodd platfform olew Deepwater Horizon.

Er gwaethaf ymdrechion y cwmni, mae miliynau o alwyni o olew wedi llifo i’r môr, ac mae’n anelu tuag at arfordir yr Unol Daleithiau, gan fygwth gwernydd, gwlypdiroedd, bywyd gwyllt, yn ogystal â’r diwydiant pysgota.

Mae talaith Louisiana eisoes wedi bod wrthi’n ceisio rhwystro’r olew rhag cyrraedd ei glannau.

Ond mae’r olew wedi cyrraedd Florida erbyn hyn, ac mae’r dalaith eisoes wedi derbyn $25 miliwn gan BP er mwyn talu am glirio’r llanast.