Mae Morgannwg yn ail yn Adran Dau Pencampwriaeth y Siroedd ar ôl curo Swydd Northampton cyn cinio ar ddiwrnod olaf y chwarae.
Roedd Swydd Northampton wedi ailddechrau’r chwarae ar 126-4, ond fe gafodd Morgannwg wared ar weddill y wicedi am 193 i ennill y gêm o un batiad a phedwar rhediad.
Fe orffennodd bowliwr y Dreigiau, James Harris y gêm gydag ystadegau o 5-62 gyda Jim Allenby yn cymryd tair wiced am 12 rhediad.
Dyma drydedd buddugoliaeth Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd y tymor hwn a’u buddugoliaeth gyntaf yn erbyn Swydd Northampton yng Nghaerdydd ers 2000.