Mae trefnwyr Gŵyl y Faenol wedi methu cyfle i gynnwys mwy o fandiau iaith Saesneg o Gymru yn yr ŵyl.
Dyna farn Arfon Wyn o fand y Moniars, yn dilyn rhyddhau arlwy Tân y Ddraig Gŵyl y Faenol 2010.
Bydd y noson eleni yn cynnwys rhai grwpiau Cymraeg ond yn cloi gyda bandiau poblogaidd o Loegr, fel The Feeling, Shed Seven, Athlete a The Roads.
Dywedodd Arfon Wyn y byddai wedi bod yn “gyfle perffaith” i ddod a bandiau â chysylltiad Cymreig ynghyd.
Byddai wedi hoffi gweld grwpiau fel y Lost Prophets, Kids In Glass Houses, Funeral For A Friend, Stereophonics, Bullets For My Valentine a Manic Street Preachers yn perfformio, meddai.
“Er bod The Feeling yn iawn – dyw’r cysylltiad gyda Chymru ddim yna,” meddai Arfon Wyn, cyn dweud y byddai’n well ganddo gael grwpiau o Gymru’n canu yn y noson.
‘Nostalgia’
Ond dywedodd Arfon Wyn nad oedd hen arfer noson Tan y Ddraig, sef rhoi llwyfan i fandiau Cymraeg yn unig, yn “gynaliadwy” chwaith.
“All nostalgia ddim cynnal gŵyl,” meddai.
“Roedd y pwyslais wedi mynd ers tair i bedair blynedd ar gael grwpiau oedd wedi torri i fyny i ddod yn ôl at ei gilydd”.
“Dyna fyddai’r noson Tan y Ddraig ddelfrydol i mi- cael hogia’ sy’n caru Cymru fel Lost Prophets a Funeral For A Friend – maen nhw’n gwneud yn wych o amgylch y byd hefyd,” meddai.
Doedd gan Arfon Wyn “ddim byd i’w ddweud” am noson ‘Pen-blwydd Brwydr Prydainam ei fod o’n “heddychwr o argyhoeddiad”.