Ers blynyddoedd, mae’r artist Mary Lloyd Jones wedi bod ar drywydd gwaith artistiaid yr oesau a fu ar gerrig ar hyd ac ar led Ewrop.
Mae cylchoedd a nodau cyfrin rhyfedd yn rhan cyfarwydd o’i thirluniau mawr lliwgar.
Ond dywed mai’r “ddau ffefryn” yw marciau oddi ar feini siambrau claddu Barclodiad y Gawres a Bryn Celli Ddu ym Môn sy’n ymddangos yn aml yn ei gwaith.
“Un o’r pethau rwy’n drio’i wneud yw ffeindio gwreiddyn o gelf weledol sy’n perthyn i’r rhan hyn o blaned,” meddai’r artist o Fachynlleth. “Mynd ymhell bell yn ôl, a dechrau a datblygu o fan’na.
“Rwy’n hoffi mynd i’r llefydd yma sydd ag awyrgylch arbennig, yn amlwg yn ddiddordeb o ran geoleg.”
Bydd ei gwaith newydd sy’n ymateb i feini Ynysoedd Orch yn yr Alban yn cael ei ddangos yn oriel y Tabernacl Machynlleth.
“Mae cymaint o archaeoleg yna. Mae mwy o archaeoleg yna nag ar unrhyw ynys yn Ewrop. Dw i wedi bod yn edrych ar y cerfiadau cynnar.”
Mi fydd ‘Ynysoedd Orch ac Archaeoleg’ yn cynnwys dau lun olew mawr, pump o rai llai, a nifer o fanion a sgetsys ar bapur.
Gweddill y stori yn Golwg, Mai 13