Mae rhaglen deledu yn trafod “campwaith anhygoel” gwraig y bardd RS Thomas ac yn gofyn pam fod y gwaith celf yn hel llwch yn Lloegr.

Yn ôl cynhyrchydd y rhaglen, Pwy oedd Mrs RS Thomas? ychydig a wyddai am Mildred Elsie Eldridge cyn darllen cofiant y bardd.

Roedd sylweddoli bod ei wraig wedi aberthu gyrfa lewyrchus fel artist er mwyn ei gwr wedi codi ei gwrychyn.

“Pan o’n i’n cychwyn,” meddai Helen Williams-Ellis, sy’n wreiddiol o Langian ym Mhen Llyn, “ro’n i’n gandryll efo fo.”

Mae hi’n cofio gweld RS Thomas o gwmpas Pen Llŷn pan oedd hi’n blentyn er na ddywedodd gair o gyfarch wrthi.

Dysgodd bod Elsie Eldridge wedi treulio pum mlynedd yn peintio murlun enfawr ‘Dawns Bywyd’ sydd yn cael ei gadw mewn storws yn Lloegr ac ofer bu’r ymdrech i ddod ag e nol i Gymru.

Yn ôl yr arbenigwr celf Peter Lord, mae’n “gampwaith anhygoel” nid yn unig ar lefel dechnegol ond am yr ymdrech gorfforol “a’r anhawster o beintio ar y raddfa yma, heb stiwdio go iawn.”

Er mai darluniau o fywyd gwledig, amaethyddol yw’r murlun a oedd i’w osod yn ffreutur Ysbyty Gobowen mae elfennau tywyllach yn y gwaith o ddyn yn cael ei gaethiwo oherwydd dyfeisiadau’r byd modern a’i lygredd.

“Dw i’n meddwl ei fod e’n warthus bod y murluniau yma o dan bolythîn mewn storfa yn y Cotswolds,” meddai Helen Williams¬-Ellis. “Maen nhw’n bwysig i Gymru.”

* O Flaen Dy Lygaid: Pwy Oedd Mrs RS Thomas?, BBC Cymru ar S4C, 9pm, Mai 18

Gweddill y stori yn Golwg, Mai 13