Trwy wneud yr hyn sy’n dod yn naturiol iddi, mae’r pianydd Annette Bryn Parri wedi gallu newid bywyd dyn ifanc o Rosneigr.

Disgybl 17 oed yn Ysgol y Bont Llangefni yw Jack Swift. Mae angen gofal arbenigol arno trwy’r amser. Dyw e ddim yn gallu siarad, ac oherwydd ei gyflwr, mae e wedi bod yn cael ffitiau bron bob dydd.

Ers dwy flynedd a hanner, mae Annette Bryn Parri wedi bod yn cynnal sesiynau ar y piano ac ar allweddell gydag e ddwywaith neu dair yr wythnos.

Yn ara’ bach, mae’r gerddoriaeth fel petai wedi cael effaith gadarnhaol ar y llanc wrth iddo ddechrau ymateb.

Mae’r pianydd daro nodau a chordiau pan fo Jack yn symud. A phan fydd e yn taro’i gwpan ar y gadair, mi fydd Annette Bryn Parri yn chwarae cordiau.

“Os oedd o’n symud i’r ochr, o’n i’n gwneud rhyw fiwsig,” meddai. “Yn sydyn reit roedd Jack yn symud er mwyn cael cerddoriaeth. Os oedd o yn hitio’i law ar gadair, o’n i’n gwneud sŵn. Roedd Jack yn fy arwain i er mwyn i fi wneud miwsig.

“Mi wnes i ffeindio ei fod e’n lecio sŵn piano, a sŵn llinynnau. Mi wnes i arbrofi efo Jack, a byrfyfyrio.”

Un o’r effeithiau yw ei bod hi’n gallu ei dawelu, os oes arwyddion ei fod ar fin cael ffit, fel sydd wedi digwydd iddo erioed.

Er nad yw Annette Bryn Parri yn therapydd cerdd cymwys, mae ganddi rywfaint o brofiad yn y maes gan y bu’n gweithio gyda therapydd tua phymtheg mlynedd yn ôl.

Roedd yn ymweld bryd hynny ag ysgolion fel Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon ar ôl rhoi’r gorau i yrfa llawn amser er mwyn magu ei phlant.

Gweddill y stori yn Golwg, Mai 13