Mae enw’r cwmni a oedd yn arfer rheoli Super Furry Animals a Gorkys’ Zygotic Mynci wedi ei “gladdu”.
Turnstile yw enw’r cwmni erbyn hyn, sy’n gyfrifol am reoli a hyrwyddo grwpiau o Gymru a hyd yn oed San Francisco – fel Islet (dde), Jonny, Girls a Sweet Baboo.
Ar un adeg, Ankst Management oedd yn cynrychioli grwpiau fel y Super Furry Animals, Melys a Gorkys’ Zygotic Mynci.
Y cefndir
Cwmni recordiau oedd Recordiau Ankst yn wreiddiol, a gafodd ei sefydlu yn 1988 gan dri myfyriwr yn Aberystwyth – Alun Llwyd, Gruffudd Jones ac Emyr Glyn Williams.
Ar ôl symud i Gaerdydd, roedd y cwmni yn rhyddhau albyms gan rai o grwpiau tanddaearol gorau’r oes – Datblygu, Y Cyrff, Tŷ Gwydr, Rheinallt H Rowlands, Ffa Coffi Pawb a’r Super Furry Animals yn ddiweddarach.
Enillodd Recordiau Ankst barch cerddorion o Gymru a thu hwnt, yn enwedig gan y DJ Radio 1, John Peel.
Gweddill y stori yn y Babell Roc, Golwg, Mai 13