Dylan Iorwerth sy’n awgrymu y gallai newid y dyddiau diwetha’ fynd ymhellach eto…
Llai na diwrnod o’r llywodraeth glymblaid newydd ac mae wedi bwrw eira ym mis Mai ar fynyddoedd Eryri ac mae diweithdra eisoes wedi codi 9,000! Oedd o’n deud ar y diws.
O hyn ymlaen, y Clameroniaid fydd yn cael y bai am bopeth, yn enwedig gan Lafur a Phlaid Cymru. Ryden ni wedi troi cefn ar system ddwy blaid a chael system dau floc yn lle hynny.
Ychydig flynyddoedd yn ôl roedd y gwleidydd Rhyddfrydol, Alex Carlile, yn sôn yn obeithiol am ail-lunio patrwm y pleidiau trwy wledydd Prydain ac am y posibilrwydd o glosio mawr rhwng Llafur a’r Democratiaid.
Bellach, mae’n ymddangos yn debyg bod David Cameron yn ceisio llunio rhyw fath o bartneriaeth lawer mwy parhaol na hon rhywfaint i’r dde o’r canol. Os daw PR, fe allai Clameroniaeth fod yn drefn hirdymor.
Beth wnaiff Llafur?
Dyna pam fod cam nesa’r Blaid Lafur yn allweddol bwysig. Mi fydd yn cymryd hoe i ddewis arweinydd newydd ac, os ydi’r elfennau mwy meddylgar o’i mewn yn cael eu ffordd, yn ystyried ei chyfeiriad hefyd.
O ran seddi, mae hi bellach wedi ei chyfyngu i rannau diwydiannol o Gymru a’r Alban, i ychydig o’r Midlands, rhannau o Lundain a thalp go lew o ogledd Lloegr. Yn ôl at ei phleidlais graidd.
Mi fyddai rhai am ei gweld hi’n adeiladu ar hynny yn hytrach na cheisio newid ei chefnogwyr, fel y gwnaeth Tony Blair ac arbrawf Llafur Newydd. Mi soniodd Gordon Brown lawer yn ystod yr ymgyrch am y dosbarth canol; mae’n ymddangos na wnaethon nhw ddim gwrando.
Yn ôl felly at y Clabinet a’r lluniau ohonyn nhw’n cyrraedd Downing Street y bore yma. Roedd y Ceidwadwyr yn edrych fel cŵn â dwy gynffon a’r Democratiaid – ar wahân i Vince Cable – yn edrych mor sobor â’r glaw ar b’nawn anghynnes.
Ffrindiau gorau newydd
Mae llawer wedi cymharu’r uniad i garwriaeth fawr â phriodas; mewn gwirionedd mae Cameron a Clegg yn debycach i ddau ffrind gorau newydd. Ond bod un yn hogyn mawr sydd wedi prynu cyfeillgarwch y llall gyda bag o fferins.
Er ei bod yn beryg seilio barn ar luniau, roedd Nick Clegg y bore yma yn edrych fel rhywun oedd wedi deffro ar ôl noson fawr, fel petai hi newydd wawrio arno fo beth oedd wedi digwydd. Fydd trafod y toriadau ddim wedi helpu’r cur pen.
Mae Cymru’n dangos natur y ddau floc newydd yn well nag unman – Llafur a’r Blaid yn rheoli yng Nghaerdydd, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid yn Llundain. Sut fydd pawb yn ymgyrchu a phleidleisio yn ystod y cyfnod nesa’?
Tybed a allai’r drefn newydd yn Llundain wthio Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn nes at ei gilydd eto?