Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi pwysleisio ei “ymroddiad” i ddatganoli yn ogystal â’i frwdfrydedd ynglŷn a gweithio’n gadarnhaol â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, cyhoeddwyd heddiw.

Daeth y newyddion ar ôl iddo fod yn trafod ar y ffôn gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Dywedodd ei fod o hefyd yn gobeithio ymweld â Chymru’n “fuan,” o bosib o fewn yr wythnos nesaf.

Mae’n debyg fod Carwyn Jones wedi llongyfarch David Cameron ac wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio ag ef.

Mae Carwyn Jones hefyd wedi dweud ei fod o eisiau perthynas adeiladol â’r glymblaid newydd yn Llundain.

Dyma’r tro cyntaf i ddwy lywodraeth o wahanol bleidiau fod mewn grym yng Nghaerdydd a Westminster.

Gogledd Iwerddon

Bu David Cameron hefyd yn siarad dros y ffôn â Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, Peter Robinson, a’i Ddirprwy Brif Weinidog, Martin McGuinness.

Roedd yn canmol y ddau am eu gwaith wrth “osod seiliau ar gyfer heddwch” yng Ngogledd Iwerddon.

Tanlinellodd hefyd ei “ymroddiad” tuag at “sefydlogrwydd economaidd a gwleidyddol,” a’i fod yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw.