Mae Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi dweud nad yw eisiau partneriaeth gyda Phlaid Cymru a’r SNP yn yr Alban.

Wrth i’r Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol geisio cytuno ar glymblaid i greu llywodraeth newydd, fe wfftiodd y syniad o dynnu’r pleidiau cenedlaethol i mewn.

Hynny er mai clymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru sydd mewn grym yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd.

“Does gen i ddim diddordeb mewn clymblaid gyda’r cenedlaetholwyr Albanaidd na’r cenedlaetholwyr Cymreig,” meddai Peter Hain ar Radio Five Live yn hwyr neithiwr. Fe ddywedodd bod Llafur wedi curo’r SNP yn llwyr yn yr Alban.

Mae Plaid Cymru a’r SNP wedi gwneud yn glir y bydden nhw’n barod i ystyried ymuno mewn “clymblaid enfys” gyda Llafur a’r Democratiaid.

Ar yr wyneb, fe fydd angen pleidleisiau ychwanegol ar y ddwy blaid honno – gyda’i gilydd, mae ganddyn nhw 315 o aelodau; mae angen tuag wyth arall i gael mwyafrif clir.