Fe fydd cynrychiolwyr y Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ail ddechrau trafod heddiw ar ôl diwrnod dramatig a welodd gyfle am un glymblaid yn chwalu a Phrif Weinidog yn ymddiswyddo.
Roedd yna gyfarfod yn hwyr neithiwr rhwng timau trafod o’r ddwy blaid ar ôl i’r Democratiaid ofyn am drafodaethau gyda Llafur.
Yn ddiweddarach, fe ddywedodd llefarwyr ar ran Llafur a’r Democratiaid bod eu trafodaethau’n “adeiladol” – yr union air oedd wedi ei ddefnyddio ychydig oriau ynghynt am y trafodaethau gyda’r Torïaid.
Roedd y Prif Weinidog wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad am bump y prynhawn a dyna pryd y dywedodd hefyd bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i drafod.
Roedd hynny wrth iddyn nhw barhau eu trafodaethau gyda’r Ceidwadwyr yn ystod y dydd, gan ofyn am “eglurhad” am rai pynciau allweddol – trethi, addysg a phleidleisio cyfrannol, PR.
Dadlau tros PR
Mae’n ymddangos mai diwygio’r system etholiadau oedd un o’r prif feini tramgwydd ac, erbyn diwedd y dydd, roedd y Ceidwadwyr wedi symud ar hynny, gan addo refferendwm ar y system AV o bleidleisio – system lai radical na PR llawn.
Erbyn hynny hefyd, roedd rhai ffigurau amlwg o fewn y Blaid Lafur wedi mynegi amheuon mawr am glymblaid gyda’r Democratiaid – gan gynnwys y cyn Weinidogion Cartref, John Reid a David Blunkett.
Yn ôl John Reid, doedd hi ddim yn iawn bod Llafur a’r Democratiaid yn cyfuno ar ôl colli cymaint o seddi yn yr Etholiad Cyffredinol. Fyddai clymblaid o’r fath ddim yn sefydlog chwaith, meddai.
“Dyw hyn ddim er lles y genedl na’r Blaid Lafur,” meddai. “Fe enillwn ni’r munudau, ond fe gollwn ni’r oriau a’r dyddiau.”
Lle mae pethau arni?
Yn ôl arweinydd y Democratiaid, Nick Clegg, roedd trafodaethau gyda’r Ceidwadwyr wedi bod yn “adeiladol” ond roedden nhw wedi methu â chreu “cytundeb cynhwysfawr ar gyfer Senedd lawn”.
Fe ddywedodd prif drafodwr y Ceidwadwyr, William Hague, bod y gofynion wedi newid. Yn lle trafod cytundeb i gefnogi Llywodraeth Geidwadol mewn pleidleisiau pwysig, roedd y Democratiaid bellach, meddai, yn gofyn am glymblaid lawn.
Roedd hi wedi dod yn amlwg dros y Sul bod rhai cyfarfodydd wedi bod rhwng cynrychiolwyr y Democratiaid a Llafur, gan gynnwys eu prif drafodwr, Peter Mandelson. Fe fu o leia’ un cyfarfod dirgel hefyd rhwng Nick Clegg a Gordon Brown.
Wrth ymateb i gyhoeddiad Gordon Brown ei fod am ymddiswyddo, roedd yna awgrym clir bod posibilrwydd o glymblaid gyda Llafur yn y gwynt.
Fe ddywedodd Nick Clegg fod y penderfyniad wedi ei wneud “er bydd y genedl”. “Dw i’n credu y gall ei gyhoeddiad fod yn elfen bwysig yn y symudiad esmwyth tuag at y llywodraeth sefydlog y mae pobol yn ei haeddu,” meddai.
Mae sïon bod Llafur yn cynnig cymaint â chwe sedd Gabinet i’r Democratiaid, deddfu ar unwaith ar AV a refferendwm ar PR pellach, ond mae hynny’n cael ei wadu.
Ymgynghori
Fe fyddai’n rhaid i’r Democratiaid Rhyddfrydol gael cefnogaeth y blaid yn ehangach cyn ffurfio clymblaid; dyw hi ddim yn glir eto sut y bydd y Blaid Lafur yn ymgynghori gyda’i haelodau.
Llun: Peter Mandxelson, prif drafodwr y Blaid Lafur, yn gwenu wrth gyrraedd trafodaethau gyda’r Democratiaid (Gwifren PA)