EISTEDDFODAU TEULU JAMES PANTYFEDWEN

PONTRHYDFENDIGAID 2010

 

Cynhaliwyd eisteddfodau llewyrchus iawn ym Mhontrhydfendigaid dros benwythnos Gŵyl Calan Mai.Profodd y gystadleuaeth gorawl newydd ar y Nos Sadwrn i fod yn llwyddiant mawr, gyda chorau o bob cwr o Gymru’n cystadlu .Enillwyr y wobr hael o £3,000 oedd Côr CF1 o Gaerdydd o dan arweiniad Eilyr Owen Griffiths,gyda Bechgyn Ysgol Gerdd Ceredigion o dan arweiniad Islwyn Evans yn ennill £2,000 a Merched Cana o Gaerdydd yn drydydd ac yn ennill £1,000.Cafwyd gwledd o ganu gwefreiddiol am dros dair awr gan y corau.

Enillwyd y Goron gan fachgen lleol, sydd erbyn hyn yn byw yn Aberystwyth, Islwyn Edwards, a’r Gadair gan Hedd Bleddyn, gynt o Lanbrynmair, ond sydd bellach yn byw ym Mhenegoes ger