Mae nifer o glybiau Cymru yn parhau i fod yn ansicr o ba adran y byddan nhw’n chwarae ynddi’r tymor nesaf.
Nid eu canlyniadau sy’n cyfrif ond eu gallu i sicrhau trwyddedau sy’n dangos bod ganddyn nhw’r adnoddau iawn.
Mae’n ymddangos y bydd yr ansicrwydd yn parhau am o leia’ wythnos arall ar ôl i rai apelio yn erbyn penderfyniadau cynt.
Parhau i aros am eu trwydded y mae Bangor, Y Rhyl ac Airbus UK a orffennodd yn neg uchaf Uwch Gynghrair Cymru’r tymor hwn – dim ond y deg ucha’ sy’n cael aros yn yr adran yn 2010-11.
Eraill yn aros
Mae pencampwyr y Cymru Alliance, Tref Llangefni ynghyd a Lido Afan o Gynghrair McWhirter Cymru hefyd yn aros i weld beth fydd canlyniad eu hapeliadau wrth iddyn nhwthau geisio sicrhau dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.
Mae’r Bala, Hwlffordd a’r Drenewydd hefyd yn gobeithio ennill eu lle, er eu bod wedi gorffen y tu allan i’r deg uchaf. Fe fydden nhw’n aros, pe bai apeliadau rhai o’r lleill yn methu.
Fe fydd panel trwyddedu’r Gymdeithas Bêl Droed Cymru dod i benderfyniad ynglŷn ag apeliadau’r clybiau ar 17 Mai.
Ansicrwydd
Yn y cyfamser mae yna bryderon ymysg y clybiau yma bod yr ansicrwydd yn eu hatal rhag rhoi trefn ar eu cynllunio ar gyfer y tymor nesaf.
Fe orffennodd y Drenewydd yn yr 13eg safle yn yr Uwch Gynghrair, ond maen nhw’n un o naw clwb sydd eisoes wedi cael y drwydded.
Mae Ysgrifennydd y Drenewydd, Owen Durbridge wedi beirniadu Cymdeithas Bêl-droed Cymru am adael i’r broses fynd ymlaen mor hwyr.
“A fydd ein chwaraewyr yn aros yn ffyddlon i’r clwb? Neu a fydd rhai’n cael eu temtio i adael y Drenewydd am glybiau sydd eisoes yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf?”meddai Owen Durbridge.
“Allwn ni ddim cynllunio’n iawn ar gyfer y tymor nesaf oherwydd nad yden ni’n gwybod ble fydd ein chwaraewyr am chwarae.”