Mae staff caban British Airways yn bwriadu cynnal cyfres o streiciau pum diwrnod sy’n bygwth anrhefn lwyr ar wahanol gyfnodau, gan gynnwys gwyliau’r Sulgwyn.

Mae undeb llafur Unite wedi dweud y bydd y staff yn streicio am 20 diwrnod ar ôl iddyn nhw wrthod cynnig diweddaraf BA i roi pen ar ffrae ynglŷn â swyddi, cyflogau ac amodau gwaith.

“Doedd dim dewis arall gyda’r staff ond i streicio ymhellach. Allwn ni ddim sicrhau heddwch heb drafodaethau ystyrlon,” meddai ysgrifenyddion cyffredinol Unite, Derek Simpson a Tony Woodley.

Mae’r undeb yn cyhuddo’r cwmni o beidio â bod yn barod i drafod eu gofidiau o ddifri’ gyda’r gweithwyr.

Roedd mwy na 7,000 o aelodau’r undeb wedi cymryd rhan mewn pleidlais gudd gyda 5,600 yn gwrthod y cynnig a 1,375 yn derbyn.

Bydd y streicio yn digwydd ar Mai 18-22, Mai 24-28, Mai 30- 3 Mehefin a Mehefin 5-9.

Pleidlais arall

Mae Unite hefyd wedi dweud eu bod yn bwriadu cynnal pleidlais gudd arall am faterion sydd wedi codi o ymddygiad y cwmni yn ystod y dadlau.

Roedd staff caban BA eisoes wedi cymryd rhan mewn cyfres o streiciau ym mis Mawrth eleni, gan achosi problemau teithio helaeth gan gostio degau o filiynau o bunnoedd i’r cwmni.

Mae BA wedi dweud bod eu cynnig yn un teg iawn i staff y cwmni ac nad ydyn nhw wedi synnu bod Unite wedi cyhoeddi mwy o streiciau.

Maen nhw hefyd wedi dweud eu bod yn bwriadu trafod gyda chludwyr eraill ynglŷn â lesio awyrennau ychwanegol a sicrhau miloedd o seddi gan gwmnïau awyrennau eraill.