Mae gwleidyddion yn San Steffan wedi ymateb gyda syndod i gyhoeddiad sydyn y Prif Weinidog ei fod yn ymddiswyddo.
Ond cymysg yw’r ymateb i’r cais gan y Democratiaid Rhyddfrydol am drafodaethau ffurfiol gyda’r Blaid Lafur – er bod y drafodaeth gyda’r Ceidwadwyr yn parhau hefyd.
Fe ddaeth y newyddion am y ddau beth yr un pryd gan gynyddu’r amheuaeth fod ymddiswyddiad Gordon Brown yn amod i’r trafodaethau.
Pam?
Dyw hi ddim yn glir eto ai ymgais i geisio gwthio penelin y Torïaid yw hyn, neu a yw’r trafodaethau gyda nhw mewn trafferthion a’r Democratiaid yn dechrau ystyried dewis arall.
Mae ASau’r Democratiaid wedi gofyn am ragor o wybodaeth am elfennau o gynnig y Ceidwadwyr ond roedd eu prif drafodwr, David Laws, yn dweud bod “cynnydd” yn y trafodaethau rhyngddyn nhwthau.
Posibilrwydd arall yw bod ASau’r Democratiaid wedi mynnu bod eu harweinwyr yn trafod gyda Llafur yn ogystal â’r Ceidwadwyr – er na fyddai gan glymblaid rhwng Llafur a’r Democratiaid fwyafrif clir.
Barn Ken Livingstone
Fe ddywedodd cyn-Faer Llundain, y Llafurwr asgell chwith Ken Livingstone, nad oedd yn synnu bod y trafodaethau rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid wedi mynd i drafferth.
Er hynny, fe ddaeth yn amlwg eisoes bod rhai Llafurwyr yn flin tros ymddiswyddiad Gordon Brown – nid oherwydd ei fod yn mynd ond oherwydd ei bod yn ymddangos mai’r Democratiaid sy’n mynnu hynny.
Dyw’r datblygiadau ddim ar ben am y dydd chwaith – mae’r Cabinet Llafur yn cyfarfod heno, yr un pryd yn union ag y mae David Cameron yn annerch ASau mainc gefn y Ceidwadwyr.
Llun: Gordon Brown yn ymddiswyddo (Gwifren PA)