Mae Banc yr RBS wedi cyhoeddi y bydd 2,600 o swyddi yn cael eu colli yn eu hadrannau yswiriant ac yn y pencadlysoedd.

Bydd 2,000 o’r swyddi’n cael eu torri yn adran yswiriant RBS, sy’n cynnwys Direct Line, Green Flag, Churchill a Privilege, sy’n cyflogi 16,000.

Y trethdalwyr sy’n berchen ar 83% o’r banc, ac mae RBS hefyd yn bwriadu torri 600 o’r 2,100 o swyddi yng Nghaeredin a Llundain.

Mae hyn yn golygu bod nifer y swyddi sydd wedi cael eu torri gan RBS wedi codi 22,600 gyda 16,600 o’r swyddi yna yng ngwledydd Prydain.

Diffyg cystadleuaeth

Fe ddaw’r toriadau diweddaraf ar ôl i’r Comisiwn Ewropeaidd ddweud bod angen i RBS werthu 318 o’u canghennau yn ogystal â’u busnes yswiriant – hynny er mwyn lleddfu pryderon ynglŷn â diffyg cystadleuaeth ers i’r cwmni dderbyn buddsoddiad gan y wladwriaeth.

“R’yn ni’n gweithio’n galed i ail-adeiladu RBS er mwyn talu’r trethdalwyr yn ôl am eu cefnogaeth, a thorri swyddi yw’r rhan fwyaf anodd o’r broses honno,” meddai’r RBS mewn datganiad.

“Fe fyddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi staff trwy’r broses ac i gadw diswyddiadau gorfodol cyn lleied â phosib.”

Mae undeb llafur Unite wedi condemnio’r newyddion am y toriadau diweddaraf.