Fe fydd myfyrwyr a darlithwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Bangor yn cyflwyno siarter sy’n mynegi pryder “am driniaeth y Gymraeg” yn y Coleg ar y Bryn.

Yn ôl Rhys Llwyd, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith a myfyrwyr yno, mae cyflwyno’r siarter yn ddechrau ar ymgyrch i sicrhau chwarae teg i’r Gymraeg yn y Brifysgol.

Os na fydd y Brifysgol yn ymateb yn bositif, fe allai honno ddatblygu i ddefnyddio dulliau eraill, meddai.

“Mae anniddigrwydd ymysg myfyrwyr a staff cyfrwng Cymraeg ym Mangor wedi bod yn mud losgi ers amser bellach.”

Y siarter

Dyma brif bwyntiau’r siarter:

• Addewid na fydd y bygythiad i gau adrannau’n lleihau’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

• Addewid y bydd y Brifysgol yn penodi Is-Ganghellor ac aelodau hŷn eraill sy’n ddwyieithog – roedd y brif swydd newydd ei hysbysebu heb unrhyw ofyn am allu iaith.

• Addewid y bydd y Brifysgol, mewn partneriaeth â’r Coleg Ffederal Cymraeg, yn llunio strategaeth glir i ddatblygu addysg Gymraeg yn y sefydliad.

• Addewid y bydd y Brifysgol yn hyrwyddo bywyd cymdeithasol Cymraeg y sefydliad drwy gefnogi Neuadd Gymraeg John Morris Jones a chefnogi ac ariannu undeb annibynnol i’r myfyrwyr Cymraeg.

• Addewid y bydd y Brifysgol yn cadw at eu cynllun iaith ac yn llunio un cryfach.

‘Rhwyfo’r ffordd arall’

Yn ôl Rhys Llwyd, Prifysgol Bangor yw prif ddarparwr addysg Gymraeg y sector – ac mae’n “bryder gweld y prif ddarparwr presennol yn rhwyfo’r ffordd arall”.

Cyflwyno’r siarter hwn fydd cam cyntaf yr ymgyrch i geisio sicrhau darpariaeth y Gymraeg a bydd camau nesaf yr ymgyrch yn “dibynnu ar ymateb y Brifysgol iddi,” meddai Rhys Llwyd.

“Pe bai’r ymateb yn negyddol, yna byddwn ni’n ystyried pob llwybr posib i ddatblygu’r ymgyrch gan ein bod ni’n brwydro dros enaid y Brifysgol a dros hawliau’r cymunedau Cymraeg y mae hi i fod i’w gwasanaethu.”

‘Awyddus i drafod’ – meddai’r Brifysgol

“Rydan ni’n awyddus i drafod hyn efo myfyrwyr y Brifysgol. Rydan ni bob tro’n agored i siarad gyda chynrychiolwyr am faes sydd o gonsyrn ac i geisio ffeindio ffordd ymlaen,” meddai Alan Parry, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Corfforaethol Prifysgol Bangor.

Fe gadarnhaodd fod y dyddiad cau wedi bod ar gyfer swydd yr Is-ganghellor a bod panel penodi “yn y broses o lunio rhestr fer a threfnu cyfweliadau”.

Llun: Is-ganghellor presennol Bangor, Merfyn Jones