Mae’r Prif Weinidog newydd gyhoeddi ei fod yn barod i ymddiswyddo.

Fe alwodd Gordon Brown gynhadledd i’r wasg y tu allan i rif 10 Downing Street i ddweud i ddechrau ei fod yn mynd i ddechrau trafodaethau ffurfiol gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ac wedyn ei fod yn barod i fynd.

Fe ddywedodd y prynhawn yma y byddai’n barod i ymddiswyddo, y bydd yn gofyn i’r Blaid Lafur ddechrau’r broses o ddewis arweinydd newydd ac na fydd ef yn sefyll.

Fe ddaeth cais am gyfarfodydd o’r fath gan arweinydd y Democratiaid, Nick Clegg, a’r gred yw y gallai presenoldeb Gordon Brown fod yn rhwystr i hynny.

Eisiau mwy o fanylion gan y Ceidwadwyr

Mae’n ymddangos, er hynny, bod y trafodaethau’n parhau rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid hefyd – er nad oedd arweinydd y Torïaid, David Cameron, yn gwybod am gyfarfodydd rhwng y Democratiaid a’r Blaid Lafur.

Fe gyhoeddodd un o drafodwyr penna’r Democratiaid, David Laws, bod rhai o ASau’r blaid wedi gofyn am ragor o wybodaeth am y cynigion pendant sydd ar y bwrdd.

Er bod y trafodaethau’n dangos cynnydd, meddai, roedd yr ASau eisiau rhagor o eglurhad am faterion fel trethi a diwygio’r drefn bleidleisio.

Fe wadodd David Laws bod y Democratiaid yn ceisio chwarae un ochr yn erbyn y llall – y neges gan ASau, meddai, oedd bod rhaid cael llywodraeth sefydlog.