Heddiw oedd y diwrnod mwya’ gwaedlyd yn Irac eleni, gydag adroddiadau bod hyd at 75 o bobol wedi cael eu lladd mewn cyfres o ymosodiadau.

Mae hunan fomiwr wedi lladd o leiaf 40 o bobol tu allan i ffatri yn Hillah, talaith Babil, lle’r oedd torf wedi ymgynnull ar ôl dau ffrwydrad car blaenorol. Cafodd dros 100 o bobol eu hanafu yno hefyd.

Yn ogystal, cafodd o leiaf wyth o bobol eu lladd yn dilyn dau ffrwydrad arall yn nhref Suwayrah, yn agos i Baghdad. Roedd un bom wedi ffrwydro mewn car, a’r llall wedi ffrwydro yn ymyl y ffordd.

Ffrwydradau yn Baghdad

Roedd y ffrwydradau yma’n dilyn marwolaeth tua 10 o bobol mewn cyfres o ymosodiadau ar draws Baghdad yn oriau mân y bore yma.

Roedd dynion arfog wedi saethu o geir tuag at aelodau o’r heddlu a’r fyddin yn bennaf, ond roedd un bom ar ochr ffordd yng ngorllewin Baghdad wedi ffrwydro hefyd, gan ladd dau berson cyffredin.

Yn ogystal â hyn, mae ffrwydradau wedi lladd ac anafu pobol yn ninasoedd gogleddol Mosul a Tarmiyah.

Ansefydlogrwydd

Does dim gwybodaeth bendant eto ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol, ond daw’r ymosodiadau yn ystod cyfnod ansefydlog yn Irac, wrth i’r wlad aros am i lywodraeth newydd gael ei ffurfio, dros ddeufis ar ôl etholiadau seneddol.

Mae cred fod gwrthryfelwyr yn y wlad yn ceisio cymryd mantais ar yr ansefydlogrwydd gwleidyddol i achosi mwy o drais.

Llun: Y seremoni i drosglwyddo grym i ddwylo milwyr Irac – y gred yw fod terfysgwyr yn manteisio ar sefydlogrwydd y wlad