Mae’r dyfarnwr rhyngwladol, Nigel Owens wedi cael ei benodi i rôl newydd yn Hyfforddwr Dyfarnwyr Academi Genedlaethol Undeb Rygbi Cymru.
Bydd y Cymro’n defnyddio ei brofiad dyfarnu helaeth gan gynnig hyfforddiant a chyngor h i fwy 2,000 o swyddogion swydd wedi cofrestru gyda’r Undeb.
“Mae gan Nigel brofiad helaeth o fod ar frig ei broffesiwn, felly dyw hi ddim ond yn naturiol i ni geisio defnyddio ei arbenigedd ar gyfer datblygu ein swyddogion yng Nghymru,” meddai Pennaeth Perfformiad Rygbi a Datblygu Undeb Rygbi Cymru, Joe Lydon.
“Mae’n ffigwr amlwg yn y gêm ac mae’r parch y mae wedi ei ennill wedi cael effaith bositif ar recriwtio dyfarnwyr yng Nghymru.
“Fe fydd yn gallu cael effaith uniongyrchol ar gynnal a chodi safonau yn ogystal â sicrhau bod ein dyfarnwyr yn gwireddu eu potensial,” ychwanegodd Joe Lydon.
Meddai Nigel
Mae Nigel Owens wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at yr her o helpu datblygu talent dyfarnu yng Nghymru.
“Mae dyfarnu wedi rhoi gyrfa amrywiol gwerth chweil i mi,” meddai Nigel Owens. “Mae wedi fy nghymryd i dros y byd a gadael i mi fod yn rhan o gemau rygbi ac achlysuron gwych”
“Bydd y rôl newydd yn fy ngalluogi i rannu fy mhrofiadau fel dyfarnwr gyda thalent dyfarnu’r dyfodol. Rwy’n falch iawn i gael y cyfle hwn.”
Bydd Nigel Owens yn ychwanegu at ei brofiad pan fydd yn dyfarnu’r gemau rhwng Awstralia a Lloegr a De Affrica a Seland Newydd dros yr haf.