Mae angen gweithredu brys i wella safonau gofal canser yng Nghymru, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig heddiw.

Maen nhw wedi bachu mewn adroddiad gan Grŵp Cydgysylltu Gwasanaethau Canser sy’n ceisio sicrhau safon uchel mewn gofal canser yng Nghymru – roedd gwasanaethau canser mewn rhai rhannau o Gymru yn sgorio mor isel â 36 allan o 100.

Hefyd, mae ffigyrau’r adroddiad yn dangos gwahaniaeth amlwg rhwng y safonau canser yng ngogledd Cymru â’r De – gyda’r Gogledd yn llwyddo cyflawni gwell safon gofal yn gyffredinol – ond yn dal i fethu’r targed safon o 100%.

Doedd dim o ymddiriedolaethau Cymru wedi llwyddo 100% erbyn Mawrth 2009.

“Mae’r adroddiad hwn yn dangos canfyddiadau annerbyniol mewn gofal canser yng Nghymru ac yn peri pryder,” meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Andrew RT Davies.

‘Methu dangos arweiniad’

“Mae’n rhaid i ni geisio sicrhau bod yr adnoddau cywir gyda ni rhag cyfaddawdu ynglŷn â safon gofal canser,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae’r Gweinidog iechyd wedi methu â dangos yr arweiniad yr oedd ei angen i sicrhau fod gofal canser yng Nghymru’n ddigonol … Dw i’n galw arni i weithredu ar frys i ddatrys y sefyllfa. Mae cleifion canser yng Nghymru’n haeddu gwell.”

Llun: Andrew RT Davies