Y Democratiaid Rhyddfrydol a fyddai wedi ennill fwya’ yng Nghymru o dan system o bleidleisio cyfrannol, PR.
A thrwy wledydd Prydain, fe fydden nhw wedi bron iawn â threblu nifer eu haelodau seneddol.
Y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol sydd wedi cyhoeddi’r ffigurau ar ôl dadansoddi canlyniadau’r etholiad ddydd Iau. Mae’r newidiadau mwya’ dramatig yn digwydd o dan drefn STV, gyda phleidleiswyr yn gosod ymgeiswyr mewn trefn.
Y sgôr yng Nghymru
Yng Nghymru, fe fyddai’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill gan orffen yn gyfartal ar 10 sedd yr un – ddydd Iau, fe enillodd y Ceidwadwyr 8 a’r Democratiaid 3.
Llafur fyddai’n colli fwya’ gan syrthio o 26 i 16, gyda Phlaid Cymru yn ennill 1 sedd, o 3 i 4.
Fe fyddai patrwm tebyg i Lafur yn yr Alban, ond plaid genedlaethol yr SNP a’r Ceidwadwyr a fyddai’n elwa, gyda’r naill yn codi o 6 i 13 a’r llall o 1 i 7.
Trwy wledydd Prydain, fe fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dod yn agos at dreblu nifer eu seddi, ond fe fyddai Llafur hefyd yn elwa ychydig mewn ardaloedd fel y De-orllewin.
Y canlyniadau
Dyma’r canlyniadau posib trwy wledydd Prydain, gyda’r cyfanswm go iawn ers dydd Iau mewn cromfachau.
Ceidwadwyr 246 (307)
Llafur 207 (258)
Democratiaid 162 (57)
Plaid Cymru 4 (3)
SNP 13 (6)
Eraill 18 (19)
O dan amgylchiadau o’r fath, fe fyddai clymblaid rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr neu Lafur yr un mor bosib â’i gilydd.
Mae’r Gymdeithas Ddiwygio’n pwysleisio mai amcan yw’r ffigurau, a nhwthau’n gorfod tybio rhai pethau a defnyddio rhai ffigurau llai manwl.
Yn y rhan fwya’ o lefydd, gan gynnwys Cymru, roedd y Gymdeithas wedi defnyddio model gydag etholaethau o bedwar neu bump aelod seneddol.
Llun: Kirsty Williams, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – byddai ganddi hi ddeg aelod yn San Steffan.