Mae taflwr y ddisgen o Benarth wedi torri tair record mewn perfformiad addawol ym Mhencampwriaethau De Cymru dros y penwythnos.
Mae Brett Morse o glwb athletau’r Birchfield Harries bellach yn cael ei ystyried yn un o obeithion Cymru am fedal yng Ngêmau’r Gymanwlad yn yr India ym mis Hydref.
Fe lwyddodd yr athletwr sy’n cael ei hyfforddi gan Nigel Bevan, i daflu’r ddisgen tros bellter o 62.99m – ei bellter gorau personol, y gorau yng Nghymru gan athletwr o unrhyw genedl a record y Deyrnas Unedig o dan 23 oed.
Safon y Gymanwlad
Roedd pellter tafliad Brett Morse yn ymhell dros y safon sydd ei angen i ennill ei le yng Ngêmau’r Gymanwlad, sef 57.50m.
Mae perfformiad y Cymro hefyd wedi codi ei safle mewn nifer o restrau detholion. Erbyn hyn mae’n cael ei gyfri’n gyntaf ar restr Prydain ac yn ail yn y Gymanwlad.
Ac yntau’n Bencampwr Cymru yn 2009, fe fydd yn amddiffyn ei deitl ym mhencampwriaeth 2010 ym mis Mehefin.
Dim ond 21 oed yw Brett Morse, sy’n golygu y bydd yn gallu cystadlu ym Mhencampwriaethau dan 23 Ewrop a’r Byd yn 2011.
Llun gan Birgitte Wangensteen.