Mae arweinydd yr ymgyrchwyr sydd am gael gwared ar lywodraeth Gwlad Thai yn fodlon derbyn amserlen ar gyfer cynnal etholiadau seneddol.
Ond mae Nattawut Saikua hefyd wedi dweud na fydd ymgyrchwyr y Crysau Cochion yn gadael strydoedd y brifddinas, Bangkok, nes y bydd Dirprwy Brif Weinidog y wlad yn rhoi ei hun yn nwylo’r heddlu.
Mae Nattawut Saikua wedi derbyn cynnig y Prif Weinidog Abhisit Vejjajiva i ddileu’r senedd ym mis Medi, a chynnal etholiad ym mis Tachwedd. Ond mae wedi mynnu y dylai Suthep Thaugsuban wynebu cyhuddiadau troseddol.
Mae’n ymddangos mai’r dirprwy brif weinidog sy’n cael ei feio am wrthdaro treisgar rhwng lluoedd diogelwch Gwlad Thai a phrotestwyr – gwrthdaro a arweiniodd at farwolaeth degau o bobol.
Fe fydd ymgyrchwyr yn parhau i wersylla yn ardal ariannol Bangkok, meddai Nattawut Saikua, nes y bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn ildio.
Ymgyrchu
Mae miloedd o brotestwyr mewn crysau coch, y rhan fwyaf yn bobol dlawd o’r wlad, wedi bod ar y strydoedd Bangkok ers 12 Mawrth, yn galw am etholiadau newydd.
Dechreuodd y protestiadau’n heddychlon ond, wedi sawl brwydr gyda’r heddlu, mae tua 30 o bobol wedi cael eu lladd a channoedd wedi eu hanafu.
Mae’r sefyllfa wedi taro’r brifddinas yn economaidd, wrth i lai o ymwelwyr fynd yno, ac wrth i bobol gyffredin geisio osgoi’r gwrthdaro.
Tlodion v elît
Mae’r gwrthwynebiad i’r llywodraeth wedi codi o honiadau fod y Prif Weinidog wedi cipio grym gyda chefnogaeth y fyddin ac elît y wlad.
Mae arweinwyr y protestiadau wedi disgrifio’u hymgyrch fel brwydr rhwng tlodion cyffredin y wlad – trigolion ardaloedd gwledig yn bennaf – ac elît cyfoethog Bangkok.
Mae’r protestwyr yn cynnwys ymgyrchwyr o blaid democratiaeth, a chefnogwyr y cyn-brif weinidog Thaksin Shinawatra, a gafodd ei ddisodli mewn coup milwrol yn 2006 tros honiadau o lygredd.
Llun: Un o brotestiadau’r Crysau Coch (AP Photo)