Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl tân yn Sir Benfro a oedd, medden nhw, wedi ei gynnau’n fwriadol.

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i’r gwasanaethau achub orfod clirio nifer o dai mewn stryd yn Aberdaugleddau

Toc ar ôl chwarter awr wedi deuddeg bore heddiw fe gafodd y gwasanaeth tân â’r heddlu eu galw i dan yn Heol y Llarwydden yn Ystâd y Mount.

Erbyn hynny, roedd rhif 13 yn wenfflam ac fe ledodd y tân i dai cyfagos. Fe gafodd pobol eu symud o’r cartrefi hynny rhag ofn.

Mae’r dyn sydd wedi’i arestio yn cael ei holi ar hyn o bryd yng ngorsaf heddlu Aberdaugleddau.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu ag adran CID Aberdaugleddau drwy ffonio 101 neu Daclo’r Tacla ar 0800 555 111.