Mab, athrawes, mam-gu a thad-cu, a theithio o amgylch y byd – dyna’r pethau gwahanol a ysbrydolodd y pedwar sydd yn rownd derfynol Dysger y Flwyddyn eleni.

Ac fe lwyddon nhw i ennill o blith 29 o gystadleuwyr, y nifer mwya’ erioed i gynnig. Yn ogystal â Chymru a Lloegr, roedd cystadleuwyr yn dod o gyn belled â Phatagonia a Gwlad Belg.

Y pedwar a ddaeth i’r brig wedi’r cystadlu yn Ysgol Glyncoed, Glynebwy, oedd Shirley Cottam, Julia Hawkins, Helen Price a Dai Williams.

Y mab

Fe ddaw Shirley Cottam yn wreiddiol o Fanceinion, ond mae’n byw, erbyn hyn, yn Aberystwyth. Cafodd ei hysbrydoli gan ei mab deg oed, JJ, sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg.

“Pan symudais i Aberystwyth, gwelais – a chlywais – yr iaith ym mhobman, ac roeddwn yn teimlo bod rhaid i mi fynd ati i ddysgu Cymraeg,” meddai Shirley Cottam.

Yr athrawes

Mae Julia Hawkins yn byw yng Nghrucywel – ychydig filltiroedd tros y mynydd o faes yr Eisteddfod eleni. Cafodd ei hysbrydoli gan atgofion o’i hathrawes Gymraeg yn yr ysgol, Carys Whelan.

“Roeddwn yn teimlo’n gryf ei fod yn bwysig i mi fagu fy mhlant yn Gymraeg, ac erbyn hyn mae Ioan yn saith oed, a’r merched, Manon ac Erin, yn dair,” meddai Julia Hawkins.

Mam-gu a thad-cu

O’r Coed Duon yn nalgylch yr Eisteddfod y daw Helen Price, ac, yn ôl yr Eisteddfod, mae ei stori hi’n nodweddiadol o lawer o bobol yr ardal.

“Roedd Mam-gu a Tad-cu’n siarad Cymraeg, ond fel cymaint o bobol yn fy nghenhedlaeth i, doeddwn i ddim. Roeddwn yn teimlo bod rhywbeth ar goll, a dechreuais ddysgu Cymraeg,” meddai Helen Price.

Teithio

Mae Dai Williams yn dod o Ystalyfera ac wedi teithio ar hyd a lled y byd. Dyna a wnaeth iddo sylweddoli ei fod am ddysgu Cymraeg.

“Clywais gymaint o wahanol ieithoedd ar fy nheithiau, ond doeddwn i ddim yn gallu siarad iaith fy ngwlad fy hun. Cefais fy ysbrydoli gan fy ffrind Pedro o Sbaen, athro yng Ngwlad Thai a oedd wedi dysgu Saesneg a Thai,” meddai.

‘Safon uchel’

Roedd Geraint Wilson-Price, Cadeirydd Pwyllgor y Dysgwyr 2010, yn fodlon iawn gyda’r gystadleuaeth eleni, pan fu’n siarad yn dilyn gweithgareddau dydd Sadwrn:

“Mae’r safon wedi bod yn arbennig o uchel, ac rydym wedi mwynhau diwrnod arbennig o hwyliog. Mae’r pedwar a ddaeth i’r brig yn ardderchog, ac yn sicr o ysbrydoli llawer o bobol eraill i fynd ati i ddysgu Cymraeg.”

Llun: Meggan Lloyd Prys, ennillydd 2009.