Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, wedi addo heddiw y bydd yn cyrraedd penderfyniad ynglŷn â rhannu grym mewn llywodraeth cyn gynted â phosib.
Ac, yn ôl y Ceidwadwyr, mae yna ddatblygiadau pendant ar ôl cyfarfod awr a hanner rhwng y ddwy ochr y bore yma.
Fe gyhoeddodd prif drafodwr y Torïaid, cyn Ysgrifennydd Cymru, William Hague, eu bod am roi adroddiad am y trafodaethau i’w harweinydd, Dave Cameron, cyn trafod gydag aelodau seneddol amlwg.
Mewn stori arall, mae golygydd gwleidyddol y BBC, Nick Robinson, yn honni bod teem o Ddemocratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi cyfarfod gyda thrafodwyr o’r Blaid Lafur, mewsn cyfarfod cyfrinachol dros y Sul.
Brys, ond dim rhuthro, meddai Clegg
Cyn hynny, roedd Nick Clegg wedi dweud bod angen brys ond wedi rhybuddio hefyd y bydd yn rhaid i unrhyw gytundeb gyda phlaid arall “wrthsefyll prawf amser.”
Wrth siarad y tu allan i’w gartref heddiw, dywedodd nad oedd yn credu fod “cyfnod maith o ansicrwydd” yn beth da.
Ond dywedodd hefyd ei bod hi’n bwysig gwneud y penderfyniad cywir yn hytrach na rhuthro a gwneud camgymeriad.
Mae ei dîm meddai, yn gweithio’n ddyfal i geisio sicrhau cytundeb ar ôl i’r Ceidwadwyr fethu â chael mwyafrif clir yn yr Etholiad Cyffredinol.
Wyneb yn wyneb – y cefndir
Roedd Nick Clegg wedi cyfarfod arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron, wyneb yn wyneb, am yr ail waith o fewn 24 awr neithiwr.
Daeth hwnnw ar ôl cyfarfod o fwy na chwe awr rhwng trafodwyr y ddwy blaid.
Erbyn hyn, mae’n debyg fod “argymhellion penodol” yn cael eu trafod rhyngddyn nhw. Mae llefarydd materion tramor y Ceidwadwyr, William Hague, wedi dweud ei fod yn “optimistaidd” y bydd modd cyrraedd cytundeb.
Mae Nick Clegg hefyd wedi cyfarfod y Prif Weinidog Gordon Brown yn y Swyddfa Dramor. Ond mae Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwadu taw cyfarfod ynglŷn â rhannu grym oedd hyn. Cyfarfod “cyfeillgar” i roi’r wybodaeth ddiweddara’ i’w gilydd ar y sefyllfa oedden nhw, honnwyd.
Llun: I mewn i’r cyfafod – y Ceidwadwyr, William Hague, Oliver Letwin a Goerge Osborne ar eu ffordd i’r trafodaethau y bore yma (Gwifren Pa)