Mae ymgyrchwyr niwclear yn Ynys Môn yn gobeithio y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn atal codi atomfa newydd yn yr ynys.

Fe ddatgelodd un o aelodau amlwg mudiad Pobol Atal Wylfa B (PAWB) ei fod wedi derbyn llythyr gan arweinydd y Democratiaid ddiwrnod cyn yr Etholiad Cyffredinol yn gwrthod ynni niwclear.

Mae Dylan Morgan o Langefni’n gobeithio bod hynny’n dangos y bydd yn gwrthod derbyn ynni niwclear i raglen llywodraeth glymblaid.

Nodyn o swyddfa Nick Clegg

Rydym yn credu y byddai gorsafoedd pŵer niwclear newydd yn gostus ac yn gwastraffu adnoddau (o ran arian a pholisi),” meddai’r nodyn a dderbyniodd o swyddfa Nick Clegg.

“Byddai’n well buddsoddi mewn gwell effeithlonrwydd ac ynni adnewyddadwy.”

Yfory, fe fydd PAWB yn cynnal piced y tu allan i gyfarfod llawn o Gyngor Sir Ynys Môn – y nod yw “addysgu cynghorwyr Môn”.

“Mae’r sefyllfa yn llawer mwy ansicr i’r diwydiant niwclear ers yr etholiad” meddai Dylan Morgan wrth Golwg360 cyn dweud fod “popeth wedi newid” bellach.

“Petai’r Blaid Llafur wedi cael buddugoliaeth glir, dyna fyddai’r canlyniad gwaethaf o ran ynni niwclear,” meddai.

‘Dylanwad’ – y cefndir a’r nodyn

Roedd Dylan Morgan wedi anfon e-bost at Nick Clegg yn gofyn i’r Democratiaid ddefnyddio eu dylanwad mewn senedd grog i “danseilio safbwynt Llafur Newydd a’r Torïaid” gan alw am “chwyldro adnewyddu ac arbed ynni”.

Pan ddaeth yr ateb ddydd Mercher Mai 5, roedd yn cadarnhau gwrthwynebiad y Democratiaid Rhyddfrydol i ynni niwclear.

“Nid ynni niwclear yw’r ateb i anghenion ynni Prydain” na’r ffordd orau o ddelio gyda newid hinsawdd, meddai’r ateb ar ran Nick Clegg.
“Yn hytrach nag ail-adeiladu gorsafoedd niwclear – roedd cynlluniau’r Democratiaid yn cynnwys arbed ynni, defnyddio ynni adnewyddadwy ac annog defnyddio tanwydd hydrogen wrth

i’r dechnoleg ddatblygu.”