Mae rheolwr Caerdydd yn dweud bod llawer ar ôl i’w wneud eto cyn cyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.
Er eu buddugoliaeth allweddol yn erbyn Leicester City yn Stadiwm Walkers ddoe, mae Dave Jones yn mynnu mai dim ond hanner amser yw hi o ran y rownd yn gyfan.
Fe fydd Caerdydd yn wynebu tîm Nigel Pearson yn yr ail gymal yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fercher.
“Dyw’r job ddim wedi ei gorffen eto ac mae’r chwaraewyr yn ymwybodol o hynny,” meddai Dave Jones. “Ond fe fyddwn ni hefyd yn eu hatgoffa nhw nifer o weithiau cyn yr ail gymal yng Nghaerdydd.”
Hapus
Roedd rheolwr Caerdydd yn hapus gyda pherfformiad cyffredinol ei dîm mewn gêm dynn, llawn pwysau yng Nghaerlŷr.
“Roedd y tactegau’n iawn oherwydd roedd y tîm wedi amharu ar chwarae Leicester City gan ddal i chwarae ein gêm ein hunain,” meddai.
Fe ddywedodd ei fod yn disgwyl noson enfawr yng Nghaerdydd nos Fercher wrth i’r tîm geisio gorffen y dasg o flaen tua 25,000 o gefnogwyr.
“Os oedd pobol yn meddwl bod 3,000 o gefnogwyr Caerdydd yn dda, meddyliwch beth fydd 25,000 o gefnogwyr yn gallu ei gyflawni,” meddai’r rheolwr.