Ifan Morgan Jones sy’n ystyried yr opsiynau posib ar gyfer ffurfio’r llywodraeth nesaf …
Opsiwn #1 – Clymblaid neu gytundeb Glas a Melyn
Mae parodrwydd David Cameron i ddod i ryw fath o gytundeb gyda Nick Clegg wedi synnu rhai o ystyried y gwahaniaeth mewn polisi ar bynciau fel Ewrop, Trident a mewnfudo sydd rhwng y ddwy blaid.
Ond rydw i’n meddwl ei fod o’n gam craff iawn. Mae’n gwybod y bydd ei ben o ar y bloc os nad ydi o’n llwyddo i ffurfio llywodraeth. Mae yna esioes nifer sylweddol yn ei blaid ei hun sy’n teimlo ei fod o wedi gwneud cawlach o’r etholiad ac wedi symud y blaid yn rhy bell i’r canol.
Dyw hynny ddim yn deg iawn wrth gwrs – mae o wedi llwyddo lle’r oedd yr hen arweinwyr Toriaidd mwy adain dde – William Hague, Ian Duncan Smith, a Michael Howard – wedi methu. Ond yn sgil amhoblogrwydd Gordon Brown a’r dirwasgiad, mae rhai yn teimlo ei fod wedi gwastraffu cyfle euraid i ennill etholiad.
Mae David Cameron dan bysau i ddod i gytundeb gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol neu fe allen nhw redeg draw i ddwylo Llafur. Mae Nick Clegg eisoes wedi dweud ei fod yn amharod i gefnogi llywodraeth Lafur gyda Gordon Brown wrth y llyw.
Yr abwyd amlwg yw cynrychiolaeth gyfrannol yn etholiad San Steffan. Allai fo ddim addo hynny ar blat – fe fyddai yna ryfel cartref o fewn ei blaid ei hun pe bai’n gwneud hynny. Ond fe allai addo refferendwm ar y pwnc ryw bryd yn y dyfodol.
Y broblem yw efallai na fyddai hynny hyd yn oed yn ddigon i ddenu Clegg. Mae arweinydd y Democratiad Rhyddfrydol yn gwybod y gallai David Cameron alw ail etholiad cyffredinol erbyn diwedd y flwyddyn, cyn i dyddiad y refferendwm gael ei gadarnhau, a sicrhau mwyafrif bryn hynny. Fe fyddai’n hawdd wedyn iddo gefnu ar y refferendwm a byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi elwa dim.
Opsiwn #2 – Clegg yn gwrthod clymbleidio gyda neb
Un opsiwn sy’n agord i Nick Clegg ydi mynd â’i bel adref gydag o. Gwrthod dewis rhwng yr un o’r ddwy blaid arall a drwy hynny ganiatáu i’r Ceidwadwyr ffurfio llywodraeth leafrifol.
Y fantais ydi y byddai’n osgoi gwrthryfel o fewn ei blaid ei hun am glymbleidio gyda plaid sydd â pholisïau gwahanol ar bynciau allweddol fel Ewrop a PR.
Mae’n debyg o gael ei farnu’n hallt gan rai pe bai’n dewis Llafur neu’r Ceidwadwyr. Yr anfantais ydi y byddai’n cael ei weld yn gwrthod cyfle unwaith mewn cenhedlaethy i sicrhau cynrychiolaeth gyfrannol yn etholiadau San Steffan.
Fe fyddai rhai hefyd yn ei weld yn anghyfrifol yn gwrthod helpu i greu llywodraeth sefydlog ynghanol argyfwng ariannol.
Yr eironi mawr yw y byddai llywodraeth Geidwadol yn siwtio Plaid Cymru a’r SNP yn iawn o ran gwthio eu hagenda wleidyddol gartref – sef sicrhau mwy o bwerau, neu annibyniaeth, i’r ddwy wlad. Mae polau piniwn yn yr Alban yn dangos y byddai cefnogaeth i Annibyniaeth yn codi’n sylweddol pe bai’r Ceidwadwyr yn rheoli yn San Steffan.
Opsiwn #3 – Clymblaid Geltaidd
Y dewis arall i Nick Clegg yw clymblaid ‘enfys’ gyda Llafur, yr SNP, Plaid Cymru a rhai o’r pleidiau llai eraill. Mae rhai’n dweud y byddai clymblaid o’r fath yn rhy anniogel i barhau, ond a ydi hynny’n dal dŵr?
Mae rhestr y consesiynau y mae’r pleidiau bychan yn galw amdanyn nhw yn eithaf penodol. Ac fe fyddai Plaid Cymru a’r SNP yn awyddus i gael eu gweld yn cadw’r Ceidwadwyr allan o lywodraeth, ac felly yn anhebygol o geisio tanseilio’r Llywodraeth yn nes ymlaen.
Y broblem fawr gyda chytundeb o’r fath ydi beth fyddai ymateb Lloegr, a bleidleisiodd yn llethol tros lywodraeth Geidwadol.
Clymblaid Geltaidd fyddai’r Glymblaid Enfys mewn gwirionedd, yn penderfynuar nifer o faterion na fydd yn effeithio ar Gymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon o gwbl. Mae’n anhebygol y byddai’n gwneud lles i Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol gael eu gweld yn rhoi mwy o arian i Gymru a’r Alban ar draul Lloegr ynghanol dirwsgiad.
Pen draw hynny fyddai naill ai datganoli i Loegr neu ymchwydd anferth mewn cefnogaeth i’r Ceidwadwyr yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Drwy gytuno i Glymblaid Enfys a fyddai Plaid Cymru a’r SNP yn newid strategaeth – gwell rheoli o Loegr nag sicrhau annibyniaeth gartref? Ynteu ydyn nhw’n bod yn bragmataidd yn wyneb yr argyfwng economaidd?